Siwgr Logo

cymraeg

English

Lisa Mair Jones

Gwelir yng ngwaith unigryw, tri deimensiwn, Lisa Jones, dirlun Cymru, a hynny drwy ddefnyddiau mentrus sydd yn llawn lliwiau cryf morwrol. Creua hi ffelt allan o wlan wedi ei liwio; ffeibrau silc; a ffeibrau o blanhigion fel banana a bambw. Deillia ei hadnebyddiaeth o Gymru drwy iddi fyw yn Aberystwyth a Chaerdydd, a chael gwyliau hir felyn tesog ar draeth Abersoch.

Mae Lisa yn arddangos ei gwaith yn Oriel y Gader yn Nolgellau, Tonnau ym Mhwllheli a Jibinc yn Aberaeron. Mae ei chynyrch hefyd ar werth yng Nghanolfan Groeso Parc Cendlaethol Eryri.
Storm
Machlud
Machlud Ynys y Barri