Gwelir yng ngwaith unigryw, tri deimensiwn, Lisa Jones, dirlun Cymru, a hynny drwy ddefnyddiau mentrus sydd yn llawn lliwiau cryf morwrol. Creua hi ffelt allan o wlan wedi ei liwio; ffeibrau silc; a ffeibrau o blanhigion fel banana a bambw. Deillia ei hadnebyddiaeth o Gymru drwy iddi fyw yn Aberystwyth a Chaerdydd, a chael gwyliau hir felyn tesog ar draeth Abersoch.